Daearyddiaeth a Thopograffeg
Hanes
Esblygiad Cenedl y Basotho
Llywodraeth Brydeinig
Annibyniaeth
Llywodraeth
Poblogaeth
Iaith
Cymdeithas
Economi
Crefydd
A hithau wedi ei lleoli yn rhanbarth de-ddwyreiniol de Affrica, mae Brenhiniaeth Lesotho wedi ei hamgylchynu ar bob ochr gan Weriniaeth De Affrica, ac yn ffinio ar Dalaith KwaZulu-Natal i’r dwyrain, Talaith y Penrhyn Dwyreiniol i’r De a Thalaith Gwladwriaeth Rydd i’r gogledd a’r dwyrain. Y mae’n ymestyn dros 30,355 kilomedr sgwar o dir a thua’r un maint Brenhiniaeth Gwlad Belg.
Yn ddaearyddol nodweddion Lesotho yw dyffrynnoedd dyfnion a mynyddoedd uchel, a Chadwyni Mynyddoedd Maluti a Drakensberg yn ymestyn o’r de orllewin i’r gogledd ddwyrain. Dyma’r unig wlad drwy’r byd sydd a’i thiriogaeth i gyd dros 1,000 medr uwch arwynebedd y mÛ r – y pwynt isaf yw 1,388 medr ac mae hwnnw’n codi i 3,500 medr yng nghadwyn mynydd Maluti ger y ffin ogledd-ddwyreiniol.
Hanes Cynnar Am o leiaf 25,000 o flynyddoedd bu helwyr-casglwyr yn byw a ffynnu ym mynyddoedd a dyffrynnoedd yr hyn a elwir nawr yn Lesotho. Yr oedd y rhain, y gelwir eu disgynyddion yn San neu Lwynwyr yn byw drwy dde Affrica ac yn gallu cymhwyso eu hunain i holl systemau amrywiol ei ecoleg.
Gadawodd y San filoedd o’u darluniau a’u hysgythriadau haniaethol hardd ar greigiau fel tystiolaeth o’u preswyliad hir. Y mae rhai’n dynodi golygfeydd hela, tra mae eraill, fe gredir, yn cynrychioli profiadau’r shaman mewn perlewyg. Fe amcangyfrifir bod 5,000 o ddarluniau ar garreg yn Lesotho, yr Ha Bakoana y pwysicaf ohonynt
Yn gymharol ddiweddar yr ymsefydlodd y Bantu yn y cylch, mor ddiweddar 1400 CE o bosibl pan ddechreuodd y Sotho is-ethnig ymfudo gyntaf i fro ehangach. Yn ystod y canrifoedd i ddilyn ymddangosodd teyrnasoedd amrywiol, y fwyaf nodedig yn eu plith oedd conffederasiwn o Basotho neu gymunedau de Sotho oedd yn trigo yn y rhan sydd ar hyn o bryd yn ogledd a dwyrain y Dalaith Rydd a dwyrain Lesotho. Y mae perthynas agos rhwng y Basotho a’r Tswana (Batswana) o Botswana a’r Sotho Deheul a’r Sotho Gogleddol neu Pedi De Affrica.
Daeth datblygiad cenedl neilltuol y Basotho o’r conffederasiwn hwn i fod o ganlyniad i’r difaqane, ehangiad militaraidd o wladwriaeth y Zulu ddigwyddodd yn ystod y 1820au gan brysuro rhyfela ffyrnig drwy gydol de Affrica. Yn 1824 sefydlodd Moshoeshoe I (1786-1870), pennaeth dinod llwyth y Bakoena bryd hynny, amddiffynfa yn Butha-Buthe ac yn Thabu Bosiu yn ddiweddarach, a chynnig cymorth i weddillion y llwythau wasgarwyd gan gyrchoedd y Zulu a’r Matabele ar yr amod eu bod yn cyfrannu tuag at amddiffyn ei deyrnas. Erbyn 1840 yr oedd tua 40,000 o ddilynwyr Moshoeshoe a’u llocehsau’n cael eu hamddiffyn gan aneddfeydd o ffoaduriaid cyfagos. Yn raddol ffurfiodd y bobl yma genedl y Basotho oedd a phoblogaeth o dros 150,000 pan fu fawr Moshoeshoe yn 1870.
Wedi llwyddo i ddod drwy storm y difaqane wynebai’r Basotho fygythiad newydd yn ystod y 1830au fel y croesodd y Boer Voortrekker yr Afon Vaal wrth chwilio am diroedd i ymsefydlu ynddynt. Cafodd y gwrthdaro cynnar gyda Sofraniaeth yr Afon Oren dan weinyddiaeth Prydain yn ystod y 1840au a’r 1850au cynnar eu datrys er mantais i Moshoeshoe gan mwyaf, ond yn 1854 newidiodd y sefyllfa o ganlyniad i wrthgiliad Prydain o Bloemfontein a sefydlu Gweriniaeth Rydd yr Oren gan y Boeriaid. Torrodd rhyfel allan yn 1850 a chafwyd colledion trwm ar y ddwy ochr, ac yn ystod yr heddwch brau a ddilynodd sylweddolodd Moshoeshoe mor ansicr ei sefyllfa. Yn 1861 ceisiodd gael amddiffyniad Prydain, ond cymerodd ddau ymosodiad dinistriol pellach ar diriogaeth y Basotho gan y Boeriaid cyn i lywodraeth Prydain gytuno yn y diwedd yn 1868 i atodi yr hyn erbyn hynny a adnabyddid fel Basutoland. Gosodwyd ffiniau cyfoes Lesotho yn y flwyddyn ddilynol. Bu farw Moshoeshoe yn 1870; dwy flynedd yn ddiweddarach cysylltwyd Basutoland Threfdigaeth y Penrhyn, ond gweithredwyd llywodraeth uniongyrchol dan Gomisiynydd Preswyl o 1884.
Wedi hynny datblygodd system o lywodraeth ddeuol yn Basutoland. Yr oedd a wnelo gweinyddiaeth Prydain gan mwyaf chasglu trethi, cosbi troseddau difrifol a datrys dadleuon ynglyn therfynnau rhwng penaethiaid cystadleuol, a dim ond yn y naw gwarchodaeth ddaeth yn drefi Lesotho yn ddiweddarach y datblygodd system o lywodraeth drefdigol leol. Ymhob man arall parhaodd yr hen system o benaethiaid a prhifwyr fel o’r blaen. Yn 1903 ffurfiwyd Cyngor Cenedlaethol Basutoland oedd yn cynnwys bron ddim ond penaethiaid ac yn bodoli i gynghori Comisiynydd Preswyl Prydain a’r Prif Bennaeth neu Frenin (Lerotholi ar y pryd) ar faterion polis
Erbyn y 1940au fe ddaeth pwysau am lywodraeth fwy gynrychiolaidd gan gyfundrefnau fel Cynghrair y Cyffredin (Commoners’ League (CL) a Chymdeithas Flaengar Basutoland (Basutoland Progressive Association (BPA) a rhyw fesur o ddemocratiaeth i’r Cyngor Cenedlaethol, ond yn fuan wedyn datblygodd mudiad cenedlaethol cydlynol Ntsu Mokhelhle ym Mhlaid Cyngres Basutoland (Basutoland Congress Party (BCP) oedd yn null yr CCA (ANC) ac yn galw am hunan-lywodraeth a diwedd ar holl arferion hiliol. Wedi hynny gosododd y BCP yr agenda politicaidd am y rhan fwyaf o’r 1950au tra collodd y penaduriaethau yr arweiniad mewn bywyd cyhoeddus yn fwy.
O’u hanfodd cytunodd llywodraeth Prydain yn y diwedd i bwyso mwy am newid cyfansoddiadol a hunan-benderfyniad, ac yn 1960, ar ôl i gyfansoddiad newydd ddod i rym, cynhaliwyd etholiadau. Y prif ymgeisiwr oedd y BCP dan Ntsu Mokhehle a Phlaid Genedlaethol Basutoland (BNP) geidwadol dan arweiniad y Pennaeth Leabua Jonathan. Enillodd y BCP yr etholiad a mynnu annibyniaeth lawn, yr hyn a gafwyd o’r diwedd yn 1966. Fodd bynnag, ar drothwy annibyniaeth collodd y BCP eu grym i’r BNP a dyna sut i Jonathan ddod yn Brif Weinidog cyntaf Brenhiniaeth Lesotho.
Yn y blynyddoedd i ddilyn cafodd llywodraeth y BNP beth llwyddiant ond aeth yn gyson yn fwy amhoblogaidd gyda’r etholwyr. Yn fuan enillodd y BCP etholiadau cyffredinol 1970, ond ymatebodd Jonathon trwy atal y cyfansoddiad a gwahardd gwrthbleidiau politicaidd. Yn 1974 methodd ymgais gan aelodau’r BCP i wrthryfela a lladdwyd llawer o gefnogwyr y BCP. Dymchwelwyd llywodraeth Jonathan yn y diwedd yng ngwrthryfel 1986 ac o ganlyniad rhoddwyd pwerau gwerithredol a deddfwriaethol i’r Brenin Moshoeshoe II unwaith eto.
Yn 1990 wedi gwrthryfel arall, diddynwyd pwerau’r Brenin yn ffurfiol. Ymhen ychydig wedyn diorseddwyd Moshoeshoe a chymerwyd ei le gan ei fab gymerodd y teitl Letsi III. Daeth diwedd ar reolaeth filitaraidd wedi buddugoliaeth ysgubol BCP y Dr. Ntsu Mokhehle yn etholiadau cyffredinol 1993. Fodd bynnag, ers hynny y mae gwrthryfeloedd a therfysgoedd wedi dal i rwystro datblygiad politicaidd ac economaidd Lesotho.
Yn Awst 1994, wedi cyfres o derfysgoedd ffyrnig symbylwyd gan luoedd diogelwch, ataliodd y Brenin Letsie y cyfansoddiad a sefydlu llywodraeth dros dro. Fodd bynnag, wedi ymyriad gan Dde Affrica, Botswana a Zimbabwe syrthiodd y gwrthryfel a daeth llywodraeth ddemocrataidd yn ol i rym. Fel rhan o dermau’r trefniant ail-sefydlwyd Moshoeshoe fel Brenin Lesotho. Fodd bynnag fe’i lladdwyd mewn damwain car ac esgynodd Letsie i’r orsedd unwaith eto.
Canlyniad yr etholiad cyffredinol diwethaf ym Mai 1998 oedd buddugoliaeth ysgubol i Gyngres Lesotho dros Ddemocratiaeth (Lesotho Congress for Democracy (LCD)) ond wedyn honnai tri o’r 12 bartion yr wrthblaid oedd wedi ymladd yr etholiadau bod y bleidlais wedi ei rigio nes cychwyn misoedd o brotestiadau cas. Mewn ymagais i wrthbrofi’r cyhuddiadau yma apeliodd pleidiau y llywodraeth a’r wrthblaid i Gymuned Datblygiad De Affrica (Southern Africa Development Community (SADC) i apwyntio Comisiwn Ymholiad i archwilio.
Penodwyd yr Ustus Puis Langa, Is-Lywydd Llys Cyfansoddiadol De Affrica yn gadeirydd y Comisiwn oedd ag aelodau o Botswana, De Affrica a Zimbabwe. Wedi i’r llywodraeth a phartion yr wrthblaid gyflwyno’u hachos yn ysgrifenedig ac i fyfyrwyr o Brifysgol y Dalaith Rydd ailgyfri’r papurau pleidleisio, penderfynodd Comisiwn Langa nad oedd prawf terfynol bod yr etholiad wedi ei rigio er bod afreoleidd-draetholiadol. Cadarnhaodd ailgyfri’r papura pleidleisio ganlyniadau etholiadau mis Mai fel y datganodd y Comisiwn Etholiadol Annibynnol. Fodd bynnag, gwrthododd partion yr wrthblaid ganlyniadau’r Comisiwn Langa.
Erbyn Medi 1998 yr oedd lywodraeth ddyddiol yn y deyrnas wedi ei pharlysu, ac wedi i’r fyddin wrth-ryfela y mis hwnnw, daeth milwyr o Dde Affrica a Botswana oedd yn gweithredu ar ran Cymuned Datblygiad De Affrica ar gais Prif Weinidog Pakalitha Mosisili i Lesotho i adfer trefn. Yno daethant ar draws gwrthsafiad ffyrnig gan rannau arfog Byddin Gwarchod Lesotho oedd wedi ochri gyda’r wrthblaid, ac yn ystod yr ymladd caled ddilynodd ysbeiliwyd siopau a llosgwyd swyddfeydd ym mhrifddinas Maseru a nifer o ganolfannau eraill. Pan mae hwn yn mynd i’r wasg mae trefn wedi dychwelyd unwaith eto, a’r gwaith o ail-adeiladu yn mynd ymlaen yn gyflym
Y Brenin yw pen gwladwriaeth Lesotho ond nad oes ganddo bellach ddim ond dyletswyddau seremonÎ ol. Y Prif Weinidog yr prifweithredwr y llywodraeth yn cael ei gynorthwyo gan Gabinet. Y mae’r senedd dwy-siambr yn cynnwys Cynulliad (ty isaf) o 80 o aelodau wedi eu hethol yn uniongyrchol a Senedd o 33 aelod yn cynnwys y 22 brifbennaeth ac 11 pennaeth wedi eu henwebu gan y blaid mewn grym.
Y mae Brenhiniaeth Lesotho wedi ei rhannu yn 10 rhanbarth. Maseru, Berea, Butha-Buthe, Leribe, Mafeteng, Mohale’s Hoek, Mokhotlong, Qacha’s Nek, Quthing a Thaba-Tseka.
Cyfanswm poblogaeth Lesotho yw 2.3 miliwn o bobl, ac mae rhyw 77% o’r rheini’n byw mewn ardaloedd gwledig.
Mae prif ganolfannau’r boblogaeth yn cynnwys Maseru (400,000), Mafeteng (65,000) a Roma (45,000).
Saesneg a Sesotho yw ieithoedd swyddogol Lesotho. Siaredir Zulu a Xhosa hefyd gan y rhai sy’n gweithio ym mwyngloddiau De Affrica neu sydd chysylltiad ag ardaloedd Transkei yn Ne Affrica.
Basotho yw rhyw 79% o boblogaeth Lesotho (fe’i gelwir yn Mosotho pan gyfeirir at berson unigol). Mae’r rhan fwyaf o’r gweddill 20% o darddiad Nguni (Zulu a Xhosa’n bennaf) ond gellir adnabod cymunedau bach o San, Grigua, Ewropeaid ac Indiaid hefyd.
Mae’r gymdeithas draddodiadol yn Lesotho yn batriarchaidd a’i chanolbwynt yw’r teulu. Fodd bynnag am bod llawer o ddynion yn byw tu allan i;r wlad am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, y merched sy’n gwneud llawer o benderfyniadau teuluol a’r gwaith fferm. Merched hefyd sy’n gweithio ar y ffyrdd ac mewn galwedigaethau gwasanaeth gan wneud i fyny mwy na 36% o’r cyflenwad gweithwyr.
Pan fydd dyn farw, rhennir ei eiddo ymysg ei frodyr a’i feibion a disgwylir iddynt ddarparu ar gyfer gweddw’r dyn ac unrhyw ferched eraill oedd dan ei ofal. Mae’r teulu’n gyfrwng cryn falchder ac y mae’r gallu i genhedlu neu esgor ar blentyn yn arwydd pwysig o botential. Mwyaf yn y byd o blant sydd gan un, mwyaf yw’r parch a roddir iddo.
Mae teuluoedd trefol yn byw mewn unedau cnewyllol, ond teuluoedd estynedig sy’n arferol mewn ardaloedd gwledig. Yno mae grwpiau o deuluoedd mawr yn cynnwys gwragedd a phlant y disgynyddion gwryw yn byw men motse neu gwrt yn cynnwys amryw o rondavel (tai crwn).
Mae Lesotho yn un o wledydd tlotaf y Trydydd Byd ac ymysg o 10 tlotaf yn Affrica. Hyd yn oed cyn y trafferthion diweddaraf mae’n debyg bod 60% o’r boblogaeth yn byw o dan linell Sail Tlodi a 48% yn derbyn cymorth bwyd yn uniongyrchol gan gyfranwyr rhyngwladol; ar ben hynny yr oedd 20% o’r boblogaeth wledig heb dir, 43% o weithwyr yn ddiwaith ac amcangyfrifid nad oedd 52% o blant ddylai fod yn mynd i ysgol gynradd yn gwneud hynny.
Mae economi gynhaliaeth Lesotho wedi ei seilio ar fagu anifeiliaid ac amaethyddiaeth; y prif gnydau a dyfir yn y wlad yw ÿ d, grawn, pys a ffa. Fe wneir i fyny am y fantolen fasnach anffafriol (nwyddau prÿ n a cyfalaf gan mwyaf) gan enillion nifer fawr o’r boblogaeth sy’n gweithio yn Ne Affrica cyfagos, yn wir amcangyfrifir bod cymaint 250,000 o ddynion i ffwrdd o Lesotho ar yr un amser, yn gweithio ym mwyngloddiau a ffatrioedd De Affrica; gallant fod i ffwrdd amryw fisoedd bob blwyddyn neu hyd yn oed am amryw flynyddoedd.
Ar wahan i rai diamwntau, ychydig o adnoddau naturiol sydd gan Lesotho, a dim ond datblygiad diwydiannol bychan, ym meysydd prosesu bwyd a thecstiliau gan mwyaf. Yn ymarferol mae hyn yn golygu bod y wlad yn dibynnu yn economaidd ar Dde Affrica ac yn wir mae Lesotho yn darparu’r farchnad fwyaf i nwyddau prÿ n o Dde Affrica yn y cylch. Sefydlwyd Corfforaeth Datblygu Cenedlaethol Lesotho i gefnogi datblygiad diwydiant, mwyngloddio, masnach a thwristiaeth. Yn ddiweddar cwblhawyd cynllun Dý r yr Ucheldiroedd, prosiect argae $2 biliwn sy’n rhoi cyflenwad dý r i ranbarth diwydiannol Vaal De Affrica a hydro-electric i Lesotho. Mae’r CMC y pen yr hyn o bryd yn sefyll dan UDA $380.
Mae bron i 80% o boblogaeth Lesotho yn Gristnogion, a’r tair eglwys fwyaf yw’r Eglwys Babyddol, Eglwys Efengylaidd Lesotho ac Egwlys Anglicanaidd Lesotho. Mae cymuned Fwslemaidd fechan yn y gogledd hefyd. Mae tua 20% o’r boblogaeth yn dilyn credoau crefyddol hollol frodorol, tra mae llawer o Gristnogion tu allan i Maseru yn arfer tradddodiadau brodorol neu ddefodau ochr yn ochr â Christnogaeth.