Gwybodaeth am Gymru

Anthem Genedlaethol

Hanes
Daearyddiaeth
Hinsawdd
Poblogaeth
Llywodraeth
Addysg
Crefydd
Arferion a Choelion

Hanes

Yr oedd y Celtiaid yn rhywogaeth egnïol, artistig a rhyfelgar. Dechreuasant ymledu i Brydain i gychwyn o Ganolbarth Ewrop tua 1000 CC, ac y mae nifer fawr o fryngeyrydd o ddiwedd yr Oes Efydd a’r Oes Haearn o tua 600 CC i’w gweld yng Nghymru.

Gohiriodd gwrthsafiad ffyrnig y llwythau Celtaidd oruchafiaeth y llengoedd Rhufeinig tua 400 CC Arhosodd Cymru Rufeinig yn gyffindir, ond ni newidiwyd bywyd y rhan fwyaf o’r Celtiaid. Fodd bynnag pan aeth y Rhufeiniaid dair canrif yn ddiweddarach, gadawsant gymynrodd barhaol o ffyrdd, caerau, argaeau a thechnoleg mwyngloddio soffistigedig.

Wedi cwymp Rhufain, datblygodd Cymru’r Oesoedd Canol yn fyrdd o freniniaethau bychain annibynnol oroesodd am nifer o ganrifoedd er na lwyddodd Cymru i ddod yn uned boliticaidd sengl; serch hynny dwysaodd y pwysau cynyddol gan reolwyr Eingl Sacsonaidd yn Lloegr yr ymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol Gymreig.

Gwelodd y 5ed a’r 6ed ganrif ledaeniad Cristnogaeth drwy Gymru – ac yn yr 8fed ganrif codwyd ffin yr enwog Glawdd Offa, gorglawdd pridd o waith llaw dyn. Bygythiwyd Cymru gan ymosodiadau ffyrnig y Llychlynwyr o gyfeiriad y mÛ ôr a chafwyd peth llwyddiant yn erbyn yr ysbeilwyr yma, gan uno Cymru dros dro dan lywodraeth Rhodri Mawr (850 OC).

Ffurfiodd Hywel Dda wyr Rhodri, gasgliad o ddeddfau ysgrifenedig - Cyfreithiau Hywel Dda - wedi eu seilio ar gyfreithiau brodorol Cymru, ac fe’u gweinyddwyd drwy Gymru hyd yr unfed ganrif ar bymtheg pan ddiddymwyd hwy dan y Ddeddf Uno.

Yr oedd y Goncwest Normanaidd yn fygythiad gwirioneddol i Gymru – adeiladwyd cannoedd o gestyll fel amddiffynfeydd – yn gyntaf gan Arglwyddi’r Mers Saesneg ac yna eu hefelychu gan y tywysogion Cymreig.

Ar ddechrau’r drydedd ganrif ar ddeg gwelwyd adnewyddiad yn nhynged Cymry yn erbyn y Normaniaid pan gymerodd Llewelyn ap Iorwerth o Wynedd fantais ar y gwendid yn llywodraeth y Saeson, i estyn ei ddylanwad drwy Gymru gyfan, a lwyddodd ei ý yr Llewelyn ap Gruffydd i wneud hyn a chymryd y teitl ‘Tywysog Cymru’, ond rhoddodd esgyniad Edward I i’r orsedd (un o’r brenhinoedd Seisnig mwyaf grymus yn y canol oesoedd) ddiwedd ar unrhyw obaith am annibyniaeth i Gymru. Lladdwyd Llewelyn, Tywysog olaf Cymru, mewn brwydr ym 1282. Rôl Edward yng Nghymru oedd gorchfygwr pwerus.

Fe fu un gwrthryfel arall yn erbyn gorsedd Lloegr yn gynnar yn y 15fed ganrif pan gadarnhaodd Owain Glyndr ei afael ar y rhan fwyaf o Gymru a cheisio dod ­ digwyddiadau a sefydliadau cenedlaethol. Byr y parhaodd y gefnogaeth newydd yma ac erbyn 1410 daeth y gwrthryfel i ben ac yr oedd gorchfygiad yn golygu bod y Cymry bellach yn ddinasyddion eilradd, heb hawl i gario arfau na dal swydd.

Yn 1536 cyflwynodd mab Harri’r VII (anwyd yn Sir Benfro ac a ddaeth i orsedd Lloegr ym 1485) Ddeddf Uno rhwng Lloegr a Chymru – uniad politicaidd a chyfreithiol cyflawn. Dechreuodd hyn broses graddol o Seisnigeiddio a daeth Llundain yn ganolbwynt i Gymry uchelgeisiol.

Gyda’r Uno daeth y Diwygiad Protestannaidd. Yn dyngedfennol i’r iaith, cyfieithwyd y Beibl i’r Gymraeg ym 1588 a hynny’n sicrhau goroesiad yr iaith Gymraeg.

Yn ystod y 18fed ganrif yr oedd cyfnewidiadau mawr i gymryd lle fel y gwyrdrodd Methodistiaeth – diwygiad crefyddol newydd – a’r Chwyldro Diwydiannol Gymru hanes i Gymru heddiw. Ymledodd y diwygiad Methodistaidd dros Gymru a chryfhau safle’r iaith Gymraeg ac adfywio traddodiadau’r Eisteddfod.

Fodd bynnag, nid y chwyldro crefyddol na’r diwylliannol oedd i gael yr effaith fwyaf parhaol ar y gymdeithas Gymreig, ond yn hytrach cyflymder y newid economaidd yn ystod y 18fed ganrif yn trawsnewid economi Cymru o un amaethyddol i un diwydiannol.

Cafwyd bod cyfoeth o lo a haearn ym mynyddoedd Cymru – y ddau ddefnydd allweddol i doddi haearn. Sicrhawyd y ffyniant mewn haearn gan yr angen am gyflenwad militaraidd a dyfodiad oes y rheilffordd. Erbyn 1827 yr oedd De Cymru yn cynhyrchu 50% o allforion haearn Prydain. Erbyn 1913 yr oedd 57 mil tunnell o lo yn cael ei gloddio yn Ne Cymru, dros 50% i’w allforio, a chyflogid 250,000 o lowyr yn y diwydiant.

Daeth diwydiant a gwell ffyrdd a rheilffyrdd, a thyfodd Caerdydd yn gyflym iawn gan ddod yn borthladd mwya’r byd yn allforio glo.

Yr oedd yr amgylchiadau byw difrifol o ganlyniad i drefoliad cyflym cymoedd De Cymru yn well na’r tlodi anobeithiol a’r diffyg cyfleoedd am ddyrchafiad yn yr ardaloedd gwledig. Yr oedd anniddigrwydd cymdeithasol dybryd yn rhemp yn y 19edd ganrif ac yn ardaloedd gwledig gorllewin Cymru gwelwyd terfysg yn erbyn y tollbyrth a’r tlotai atgas.

Daeth gwir symbyliad am newid sylfaenol erbyn diwedd y 1890au pan oedd y Rhyddfrydwyr mewn grym a gyda dyfodiad David Lloyd George y Cymro radical ddaeth yn Ganghellor y Trysorlys ac yna’n Brif Weinidog.

Cafodd y Rhyfel Mawr, dorrodd allan ym 1914, effaith ddramatig ar fywyd a chrefydd Cymru, a chliriodd y llwyfan i fuddugoliaeth y Blaid Lafur. Erbyn y 1930au yr oedd goruchafiaeth Llafur yn y glofeydd yn llwyr.

Rhwng y ddau ryfel dioddefodd Cymru ddirwasgiad economaidd gawr, a lledodd y bwlch rhwng Cymru wledig a diwydiannol. Erbyn 1945 ac wedi’r Ail Ryfel Byd, cychwynnodd y llywodraeth raglen o bwys i hybu diwydiant newydd yng Nghymru. Yn ystod yr amser yma a thwf Undebau Llafur yr ymddangosodd llawer o arweinwyr politicaidd blaenllaw, Aneurin Bevan yr enwocaf ohonynt – arloeswr y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn Llywodraeth Lafur Prydain wedi’r rhyfel

Erbyn canol y 50au llwyddodd Cymru i gael bron i gyflogaeth llawn, ond yn y 60au caewyd mwy o byllau ac yr oedd yn amser caled ar y diwydiant haearn. Yr oedd yn rhaid i Gymru amrywio’i sylfaen diwydiannol wedi hynny.

Y brif sialens boliticaidd i’r Blaid Lafur yng Nghymru yn ystod y 60au a’r 70au oedd Plaid Cymru – a ddaeth yn rhan o’r olygfa boliticaidd yn ddramatig pan enillodd eu Llywydd, Dr Gwynfor Evans isetholiad Caerfyrddin ym 1966.

Erbyn diwedd y 60au yr oedd galw mawr am ddatganoli o San Steffan, ac yr oedd buddugoliaeth Plaid Cymru yn Etholiad Cyffredinol 1974 a’r llwyddiannau cenedlaethol cyfatebol yn yr Alban, yn rhoi datganoli Cymreig ac Albanaidd yn gadarn ar yr agenda boliticaidd. Yn y refferendwm 1979 mynegodd 80% o’r rhai bleidleisiodd eu gwrthwynebiad i sefydlu Cynulliad.

Ddegawd yn ddiweddarach, ym 1999, yn dilyn refferendwm fwriodd bleidlais gadarnhaol o blaid datganoli (heb rym amrywio trethi), sefydlwyd Cynulliad Cymreig newydd i roi fframwaith politicaidd newydd i Gymru.

Yn ôl i frig y dudalen

Daearyddiaeth

Mae tir Cymru yn mesur 8,000 milltir sgwâr (20,720 sg) tua dwy ran o dair maint Gwlad Belg. Yn syth ar draws o’r Gogledd i’r De ar y map mae’n mesur tua 170 milltir, (270km) a thua 60 milltir (100 km) o’r Gorllewin i’r Dwyrain yn y man culaf a thua milltir (120km) yn y lletaf.

Mae rhan fawr o Gymru’n dir uchel, y rhan fwyaf yn 600 troedfedd uwchlaw’r mÛ ôr a 25% yn uwch na 1,000 troedfedd (305m0. Mae’r rhan mwyaf mynyddig yn y Gogledd Orllewin, Parc Cenedlaethol Eryri, gyda’i fynydd uchaf, Yr Wyddfa, yn cyrraedd 3,560 troedfedd (1,085m).

Mae llawer o afonydd yng Nghymru. Y pwysicaf yw’r Dyfrdwy, yr Hafren a’r Gwy. Ceir hefyd lynnoedd naturiol a rhai o waith dyn. Y llyn naturiol mwyaf yw Llyn Tegid (45 milltir sgwâr/10.4 sg)

Yn ôl i frig y dudalen

Hinsawdd

Oherwydd natur fryniog y wlad, mae’n anodd rhagweld y tywydd yng Nghymru, ond ceir dipyn o law. Am fod y tywydd mor gyfnewidiol gall bore glawog yn aml arwain i brynhawn heulog braf.

Mae’r tymheredd ar y cyfan tua 16-18o c ac y mae unrhyw beth dros 20o c yn cael ei gyfri’n boeth. Yn y gaeaf mae’r tymheredd yn syrthio i 5o c neu 6o c gyda adegau pan fo’r tymheredd ar bwynt rhewi neu ychydig yn is. Gall oerfel eithafol gyda stormydd eira trwm yrru trefi a phentrefi allan o gysylltiad weithiau, ond yn gyffredinol mae’r eira’n aros ar dir uchel am ychydig ddyddiau yn unig. Mae Gwanwyn a Hydref yn dymhorau cynnes a braf ar y cyfan.

Yn ôl i frig y dudalen

Poblogaeth

Poblogaeth Cymru yw 2.9 miliwn, 5% o gyfanswm poblogaeth y Deyrnas Unedig. Caerdydd yw ei phrifddinas ag iddi boblogaeth o bron 300,000. Y ddinas fawr arall yw Abertawe tra mae trefi eraill o bwys yn cynnwys Casnewydd, Wrecsam, Caerfyrddin, Y Drenewydd, Aberystwyth a Bangor.

Yn ôl i frig y dudalen

Sut y Rheolir Cymru

Llundain
Fel rhan cyfansoddol o’r Deyrnas Unedig, fe gynrychiolir Cymru yn Nhÿ ’r Cyffredin yn San Steffan gan 38 Aelod Seneddol allan o gyfanswm o 651. Fe’i hetholir mewn Etholiad Cyffredinol gynhelir bob 5 mlynedd.

Caerdydd
Yn 1999 daeth sefydlu Cynulliad Cymreig yng Nghaerdydd ­ fframwaith politicaidd newydd i Gymru sy’n cymryd drosodd swyddogaeth y Swyddfa Gymreig. Er nad oes ganddo bwerau amrywio trethi na swyddogaeth ddeddfwriaethol, y mae’n sefydliad politicaidd pwysig.

Ewrop
Y mae Cymru’n dewis 5 aelod i’r Senedd Ewropeaidd yn Strasbourg.

Lleol
Y mae Llywodraeth Leol yng Nghymru, fel yng ngweddill y Deyrnas Unedig, wedi ei selio ar awdurdodau etholedig lleol yn ymorol am wasanaeth cyhoeddus. Y mae 22 Awdurdod unedol yng Nghymru yn gyfrifol am gynllunio strategol, addysg, yr heddlu a gwasanaethau tân.

Yn ôl i frig y dudalen

Addysg

Mae’n rhaid i bob plentyn rhwng 5 a 16 oed fynd i’r ysgol. Fodd bynnag, mae rhai plant yn mynd i ddosbarthiadau meithrin neu grwpiau chwarae cyn ysgol, a llawer yn aros mewn ysgol uwchradd neu golegau chweched dosbarth nes bod yn 18 oed. Mae’r rhwydwaith o’r grwpiau chwarae sy’n cael eu rhedeg drwy gyfrwng y Gymraeg – Mudiad Ysgolion Meithrin – wedi profi’n ffordd boblogaidd o gyflwyno’r iaith Gymraeg i blant ieuainc o gartrefi Saesneg eu hiaith.

Mae plant pump oed yn arferol yn mynd i ysgol gynradd leol ac yna’n symud yn 11 oed i ysgol uwchradd sy’n gwasanaethu cylch llawr eangach. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn cymryd arholiadau cyhoeddus mewn maes eang o bynciau yn 16 oed – Tystysgrif Gyffredinol Uwch (TGAU). Mae astudiaethau chweched dosbarth yn fwy arbenigol ac yn arwain yn arferol at arholiadau ar Lefel ‘A’ mewn tri phwnc. Mae llwyddiant yn Lefel ‘A’ yn arferol yn caniatáu i fyfyriwr barhau i addysg uwch unai yng Nghymru, neu rywle arall yn y Deyrnas Unedig.

Sefydliad ffederal yw Prifysgol Cymru yn cynnwys llawer o sefydliadau prifysgol fel Aberystwyth, Caerdydd, Llanbedr, Bangor ac Abertawe.

Mae hefyd tua 40 o golegau yng Nghymru sy’n cynnig rhychwant o gyrsiau addysg bellach, llawr o natur dechnegol a masnachol yn arwain at gymhwyster cydnabyddedig.

Yn ôl i frig y dudalen

Crefydd

Mae Cristnogaeth wedi gwreiddio’n ddwfn yng Nghymru ac wedi chwarae rhan amlwg yn natblygiad y wlad. Sefydlodd saint brodorol yr Eglwys Geltaidd yn y 5ed a’r 6ed ganrif, ac yn ddiweddarach fe’u haildrefnwyd o fewn yr Eglwys Ewropeaidd Orllewinol. Yn ystod y Diwygiad Protestannaidd daeth yn rhan o’r Eglwys Brotestannaidd Anglicanaidd, ond ddwy ganrif yn ddiweddarach ysgubodd mudiad Anghydffurfiol grymus drwy Gymru gan ffurfio sectau ymneilltuol fel y Methodistiaid, yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr. Daeth y capeli yn ganolbwynt bywyd cymunedol cyfoethog, a dylanwadodd eu traddodiad Piwritanaidd, côd moesoldeb caeth eu pregethau a chadwraeth y Sabath yn drwm ar y gymdeithas Gymreig. Adeiladwyd nifer fawr o gapeli gan bob enwad, ac mae’r adeiladau hynny yn nodwedd o bentrefi a threfi yng Nghymru byth.

Yn ystod yr 20fed ganrif ac yn arbennig wedi’r Ail Ryfel Byd gostyngodd presenoldeb crefyddol yn amlwg iawn. Dengys ffigyrau diweddar bod llai nag un o bob pedwar o’r boblogaeth yn aelod o eglwys.

Mae’r prif enwadau, yn Brotestaniaid a Phabyddion, yn edrych am ffyrdd i gydweithio. Mae’r rhan fwyaf o Iddewon, Moslemiaid a chymunedau a Hindaid o Siciaid yn byw yng Nghaerdydd, a grwpiau bychain o FwdÎ aid wedi cartrefu mewn rhannau o Gymru wledig, er nad mewn niferoedd mawr.

Yn ôl i frig y dudalen

Arferion Llen a Gwerin

Dewi Sant
Ef yw Nawddsant Cymru – sant o’r eglwys Gelteg fore fu farw ar Fawrth 1af 588 ac a gladdwyd yn Eglwys Gadeiriol Tÿ Ddewi yn Sir Benfro, man pererindod enwog yn y canol oesoedd.

Mae Tÿ Ddewi wedi ei gefeillio ­ Matsieng, Pentref Brenhinol Lesotho. Cymerodd seremoni sefydlu’r gefeillio le ym Mai 1999 pan ymwelodd Mamahato, Mam Frenhines Lesotho ­ Thÿ Ddewi. 

Baner Cenedlaethol
Darlunnir y Ddraig Goch ar gae gwyrdd a gwyn. Ni wyddys sut y daeth y ddraig goch yn arwyddlun Cymru,ond mae’n debyg i’r Brythoniaid cynnar ei defnyddio fel baner brwydr.

Y Delyn
Offeryn cenedlaethol Cymru, ac mae’n draddodiadol yng Nghymru i’w defnyddio i gyfeilio i ganu ‘penillion’ – gwead cymhleth o sain gyda’r canwr yn defnyddio un alaw a’r telynor yn defnyddio cyfalaw wahanol.

Yn ôl i frig y dudalen