Aelodaeth

Ymunwch a Dolen Cymru heddiw a chefnogwch ein gwaith!

Amcan Dolen Cymru yw hyrwyddo cysylltiadau o bob math rhwng Cymru a Lesotho yn neheubarth Affrica er mwyn hybu gwybodaeth, dealltwriaeth a chyfeillgarwch rhwng y naill a’r llall. Mae Dolen o’r fath yn foddion i bobloedd o gefndiroedd gwahanol iawn i’w gilydd ddod i werthfawrogi nodweddion, problemau a dyheadau ei gilydd.

Rydym yn gweithio yn uniongyrchol a’n partner fudiad yn Lesotho (‘The Lesotho Wales Link’) i hybu gweithgareddau sy’n cysylltu mudiadau, ysgolion, ysbytai, pentrefi, rhanbarthau, eglwysi yn y ddwy wlad. Fel Elusen Gofrestredig mae Dolen Cymru yn gweithredu fel catalydd, yn cyd-drefnu a chynghori gwahanol gynlluniau yn ol yr angen.

Pwysleisiwn nad mudiad cymorth i Lesotho yw Dolen Cymru, gan y credwn fod creu perthynas hafal rhwng dwy wlad yn angenrheidiol ar gyfer hybu dealltwriaeth rhyngwladol a thraws-ddiwylliannol. Drwy gydweithio gyda phobl Lesotho ar sail cydraddoldeb mae Dolen Cymru yn galluogi i bobl, elusennau a sefydliadau yn y ddwy wlad i ddysgu o’u gilydd, rhannu sgiliau a datrys rhai o’r problemau sydd yn wynebu eu gwledydd ar y cyd. Mae’r ddau gylchlythyr sydd yn cael ei gynhyrchu yn flynyddol yn galluog ein aelodau i ddeall pa mor bwysig yw eu cefnogaeth.

Pan rydych yn ymaelodi a Dolen Cymru Lesotho nid yn unig ydych yn cefnogi gwaith Dolen Cymru a Laquama Le Wales (Dolen Lesotho Cymru), byddwch hefyd yn derbyn dau gylchlythyr y flwyddyn yn amlinellu gwaith y Ddolen, bwletinau cyson gyda'r newyddion diweddaraf ar apeliadau a digwyddiadau a gwahoddiad i fynychu Cyfarfod Blynyddol y Ddolen.

Er mwyn ymaelodi lawr lwythwch y ffurflen isod a danfonwch ef i mewn gyda’ch tâl aelodaeth.

Cost aelodaeth unigolyn yw £10 y flwyddyn yn unig a £15 am deulu.  

Os rydych chi am ymaelodi fel Ysgol, Eglwys neu fudiad gallwch wneud am £20 y flwyddyn yn unig.

(I lawrlwytho cliciwch ar yr eiconau)

 Furflen Aelodaeth Eglwys neu Capel
 Furflen Aelodaeth Unigol
 Furflen Aelodaeth Mudiad
 Furflen Aelodaeth Ysgol

Rhodd Cymorth  –  mwy o wybodaeth.

 Rydych chi hefyd yn gallu cefnogi Dolen Cymru drwy rodd cymorth, sy’n rhyddhau’r treth ar arian sy’n cael ei gyfrannu i elusennau Prydeinig.

Mae rhoddion yn cael eu trin fel petai’r rhoddwr wedi tynnu’r gyfradd sylfaenol o dreth o’r rhodd eisoes.  Fe all yr elusen wedyn hawlio’r treth yn ôl i godi cyfanswm y rhodd.

 Mae mwy o wybodaeth am hyn i’w gael ar wefan Cyllid a Thollau EM 

 

FFurflen Rhodd Cymorth