Rhaglen Lleoli Athrawon yn Lesotho
Caiff y rhaglen hon ei rhedeg gan Dolen Cymru mewn partneriaeth gyda’r Cyngor Prydeinig (Cymru). Mae’n anelu at roi cyfle i athrawon cymwysedig yng Nghymru i gael cyfle arbennig i weithio mewn gwlad sy’n datblygu am 6 mis ac i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol fel athrawon.
Yn Ionawr 2005, grŵp o chwech athro oedd y cyntaf i gymryd rhan yn y rhaglen newydd yma. Yr oedd yr athrawon yn byw a gweithio yn nhref Hlotse yn Leribe, rhyw 2 awr o daith o’r brifddinas. Buont yn dysgu mewn amrywiaeth o ysgolion cynradd ac uwchradd. Am brofiad un athro o ddysgu yn Lesotho, darllenwch yr adroddiad isod.
Dechreuodd chwech athro arall ar eu lleoliad yn nhref TY (enw llawn – Teyateyaneng) yn Lesotho yn Ionawr 2007
Mae Dolen Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer ei Rhaglen 2008 y dyddiad cau am geisiadau yw'r 9fed o Fai!
(I lawrlwytho disgrifiad swydd a ffurflen gais ewch i waelod y dudalen yma)
Mentor neu Athro?
Mae Dolen Cymru yn chwilio am saith unigolyn i gymeryd swydd athro ar y rhaglen ac un unigolyn i gymeryd rôl Mentor y grŵp. Y mentor fydd goruchwyliwr y grwp yn ystod y cyfnod, fo/hi fydd yn gyfrifol am iechyd a lles gweddill y grwp yn ystod y rhaglen, yn ogystal a chefnogi ei datblygiad proffesiynol. Yn ddelfrydol fe ddylai'r mentor fod â dros dair mlynedd o brofiad dysgu, gyda profiad o ddysgu mewn gwlad sy'n datblygu a sydd wedi rheoli/cynghori eraill. Mae'r safle mentor yn derbyn taliad uwch na'r athrawon eraill (£1000 y mis) fel cydnabyddiaeth o'r cyfrifoldeb sydd yn mynd gyda'r swydd. Rydan ni'n edrych am unigolyn hyderus a medrus sydd ar gallu i gyfathrebu yn dda ac yn hwylus i gymeryd y swydd hon. Mae'r Mentor yn cael cefnogaeth o fewn y wlad gan y Lesotho-Wales link ac yn ateb i'w rheolwr llinnell yng Nhymru. Fe ddisgwylir i'r Mentor weithio 3-4 diwrnod yr wythnos fel athro mewn ysgol leol, a treulio'r amser sydd yn weddill i gefnogi'r athrawon a delio gyda unrhyw anhawsterau sy'n codi drwy ymweld a hwy yn yr ysgol neu gartref, neu mynd gyda nhw ar ymweliadau sy'n ymwneud â iechyd neu materion gweinyddol, e,e adnewyddu Visa. Lawrlwythwch y ffeil dyletswyddau Mentor a manylion swydd am fwy o wybodaeth.
Cymhwyster
I fod yn gymwys i ymgeisio am y rhaglen hon, bydd angen i chi fod:
Cwestiynau cyffredin
1. Ymhle y caf fy lleoli yn Lesotho?
Mae’r grŵp athrawon yn debyg o gael eu lleoli yn yr un dref yn Lesotho y tu allan i’r brifddinas. Ar gyfer rhaglen 2006-07 mae’r athrawon yn byw a gweithio yn TY (neu Teyateyaneng), tref fechan rhyw awr i’r gogledd i’r brifddinas, Maseru.
2. Beth yw dyddiadau’r rhaglen?
Mae’r rhaglen yn dilyn blwyddyn academaidd Lesotho sydd yn dechrau ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf. Bydd yr athrawon yn hedfan i Lesotho rhyw wythnos cyn dechrau’r tymor am ychydig ddyddiau o ymgyfarwyddo yn y brifddinas ac yn eu tref newydd. Cadarnheir y dyddiad cychwyn ym mis Tachwedd. Byddwch yn dysgu yn Lesotho rhwng Ionawr a Mehefin gyda’r opsiwn o estyn eich arhosiad am chwe mis arall i fyny at Ragfyr 2008.
3. Beth am hyfforddi a pharatoi?
Mae Dolen Cymru yn cynnig i bob athro a dderbyniwyd ar y rhaglen hon raglen hyfforddi a addaswyd i’w hanghenion hwy. Mae’r rhaglen hyfforddi yn cynnwys tri chwrs ar wahân, i gyd yn para am 3 niwrnod gyda’r ddau gyntaf yng Nghaerdydd a’r trydydd yn Lesotho yn syth ar ôl cyrraedd cyn dechrau’r lleoliadau.
1. Cwrs Hyfforddi Cychwynnol:
Rhoddir hwn gan staff Dolen Cymru/Lesotho Wales Link ym mis Medi. Mae’r cwrs hyfforddi hwn yn gyflwyniad i’r rhaglen ac i’r sefydliadau partner ac yn “ddigwyddiad torri’r iâ”. Mae’r sesiynau yn cynnwys gwersi yn yr iaith Sesotho, iechyd a diogelwch (HIV, brechiadau teithio ayyb), eich rôl a’ch cyfrifoldebau, beth i fynd gyda chi, gwaith paratoawl, sesiwn C&A gyda’r athrawon a ddychwelodd a rhagarweiniad i’r diwylliant Basotho.
2. Cwrs Hyfforddi Cyn Ymadael:
Rhoddir hwn gan VSO ym mis Rhagfyr. Mae’r hyfforddiant yma yn canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol yr athrawon, codi ymwybyddiaeth o faterion datblygiad, strategaethau ar sut i ymdopi â’r amgylchfyd newydd (e.e. delio â dosbarthiadau mawr, aml-safon, dysgu trwy gyfrwng ail iaith), cefnogi datblygiad athrawon (mentora, arolygu’r dosbarth ayyb) a dysgu Dinasyddiaeth Fyd-eang ac Astudiaethau Amgylcheddol wedi iddynt ddychwelyd.
3. Cwrs ar ôl cyrraedd:
Darperir hwn gan Skillshare Lesotho ym mis Ionawr. Rhoddir yr hyfforddiant Skillshare ar ail ddiwrnod yr athrawon yn Lesotho a bydd yn canolbwyntio’n fwyaf arbennig ar y cyd-destun lleol. Caiff yr iaith Sesotho ei chynnwys drwyddi-draw a rhoddir sesiwn ar ddiwylliant Basotho. Rhoddir sylw hefyd i gyd-destun datblygiad yn Lesotho (HIV/AIDS, y sefyllfa wleidyddol a’r economi) a’r effaith a gânt ar addysg. Ceir astudiaeth fanwl o system addysg Lesotho a threfnir cyfarfod gydag arolygwyr y lleoliadau gwaith i gytuno ar nodau ac amcanion y lleoliadau.
4. Sut fedraf i wneud cais a beth sy’n digwydd wedi i’m cais gael ei dderbyn?
Cysylltwch â Dolen Cymru neu’r Cyngor Prydeinig (Cymru) am ffurflen gais. Llenwch y ffurflen a dychwelwch hi at Dolen Cymru. Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, cewch eich galw i Gaerdydd am gyfweliad a chewch wybod o fewn un dydd os cawsoch eich derbyn ar y rhaglen.
Bydd unrhyw gynnig am le ar y rhaglen yn ddibynnol ar dystlythyrau boddhaol ac archwiliadau meddygol. Bydd rhaid i chi gael Datgeliad Manwl gan yr Uned Cofnodion Troseddol
5. Beth a ddisgwylir gennyf yn yr ysgol?
Mae’n arferol yn Lesotho i athrawon o dramor i weithio gyda dosbarthiadau cyfan, tua 40-50 o ddisgyblion fel arfer, er gall fod yn uwch na hyn. Cewch eich gwahodd i gyfrannu eich syniadau eich hun yn ogystal â dilyn cyrsiau gosod. Mae’r diwrnod ysgol yn Lesotho yn cychwyn am 8am (i Ysgolion Cynradd, o 8.30 yn y gaeaf) ac yn gorffen am 2pm i Ysgolion Cynradd a 4pm i Ysgolion Uwchradd. Cynhelir dosbarthiadau o ddydd Llun hyd Dydd Gwener a disgwylir i chi helpu o bryd i’w gilydd gyda gweithgareddau all-gyrsiol ar ôl ysgol neu ar rai penwythnosau yn ôl eich diddordebau personol. Bydd y pwnc a ddysgwch yn dibynnu ar eich sgiliau a’ch gallu chi eich hun, a ph’un ai eich bod yn athro Cynradd neu Uwchradd. Er hynny, disgwylir i bob athro i ddysgu peth Saesneg ac o bosib Mathemateg. Gellwch ddod i delerau am eich amserlen gyda’ch ysgol wedi i chi gyrraedd.
Disgwylir hefyd i athrwon i gymryd rhan mewn gweithdai a hyfforddiant er mwyn rhannu eu sgiliau gyda’r lleill. Os penderfynwch aros ymlaen am 6 mis arall wedi diwedd y rhaglen, bydd gennych gyfle i weithio’n agosach gyda’ch cyd-athrawon i ddatblygu a gwella eich sgiliau mentora a hyfforddi athrawon.
6. Beth am lety?
Trefnir eich llety gan swyddfa bartner Dolen Cymru yn Lesotho. Byddwch yn rhannu tŷ gydag athrawon eraill o Gymru. Bydd dau dŷ gyda thri neu bedwar athro ym mhob un. Bydd safon y tŷ yn uchel o’i gymharu â safon tai lleol. Bydd gan bob tŷ drydan (ar fesurydd gan amlaf), dŵr rhedegog twym ac oer, toiled lle gellir tynnu’r dŵr ac adnoddau coginio. Fel arfer bydd y tŷ o fewn cyrraedd yr ysgol ar droed. Bydd cost y llety yn debyg o fod tua £60 y mis ac nid yw yn gynwysedig yn y rhaglen.
7. Pa safon o Saesneg fydd gan y disgyblion yn barod?
Dysgir Saesneg i’r plant o oedran cynnar yn yr ysgolion cynradd, ac yn yr ysgolion cynradd, bydd llawer o’r dosbarthiadau uwch yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Saesneg. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion uwchradd yn Lesotho yn dysgu trwy gyfrwng y Saesneg yn unig. Er hynny, mae’n bwysig cofio mai ail iaith yw Saesneg yn Lesotho a bydd yna rai problemau cyfathrebu. Bydd sgiliau TEFL yn ddefnyddiol yn ogystal â pheth gwybodaeth sylfaenol o Sesotho. Cewch wersi rhagarweiniol yn Sesotho ar bob rhan o’ch hyfforddiant.
8. Pa fath o gefnogaeth a allaf ei ddisgwyl pan fyddaf allan yno?
Bydd gan bob grŵp fentor, person a fydd yn gyfrifol am gefnogi eu datblygiad proffesiynol a sicrhau eu llês. Cynrychiolydd Dolen Cymru yn y man a’r lle fydd mentor y grŵp ond bydd hefyd yn rhan o’r tîm, yn gweithio’n rhan-amser mewn ysgol ac yn byw gyda’r athrawon. Cewch eich cefnogi yn ogystal gan staff y Lesotho Wales Link, sefydliad partner Dolen Cymru yn Lesotho. Byddant wrth law i roi cyngor, i gysylltu gyda’r ysgolion a’r swyddogion lleol ac i gynnig cefnogaeth dda i chi ar hyd eich arhosiad.
9. A fydd arnaf angen visa, polisi yswiriant a brechiadau?
Fe gewch visa (yn ddi-dâl) yn y maes awyr wedi glanio yn Lesotho. Er hynny, bydd angen bod eich pasbort yn ddilys am o leiaf chwe mis wedi dyddiad eich mynediad i’r wlad. Bydd polisi yswiriant Dolen Cymru yn eich gwarantu ar gyfer pob gweithgaredd yn ystod eich ymweliad ar wahân i weithgareddau peryglus megis dringo creigiau neu sgïo.
Tâl a budd-daliadau
Disgwylir i chi fynychu dau gwrs hyfforddi yng Ngymru cyn hedfan allan i Lesotho ym mis Ionawr.
Bydd Dolen Cymru yn cynnig cefnogeth o fewn y wlad trwy’r mentor grŵp a thrwy ei sefydliad partner ym Maseru
Bydd athrawon sy’n cymryd rhan yn derbyn tâl o £500 y mis, a fydd yn fwy na digon i dalu am lety a bwyd. Tâl arferol athrawon yn Lesotho yw tua £200-£300 y mis. Gellwch ddisgwyl byw ar tua £350 y mis.
Bydd yr athro-mentor ar y rhaglen yn derbyn tâl o £1000 y
mis.
Darperir tocyn yn ôl i’r DG i bob athro a orffennodd y
lleoliad 6 mis yn ogystal ag yswiriant llawn.
Bydd Dolen Cymru yn trefnu’r teithiau awyren, y cludiant o fewn y wlad, llety, lleoliad ysgol, sesiynau gwybodaeth, cefnogaeth o fewn Lesotho ac yswiriant.
A oes gennych ddiddordeb?
Os hoffech drafod y prosiect neu os ydych am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â Dolen Cymru yn ystod oriau swyddfa.
Gellwch lawrlwytho copi o hysbys-ddalen y Rhaglen Lleoli Athrawion yn Lesotho isod
(bydd arnoch angen Adobe Acrobat Reader. Gellwch ei lawrlwytho o’r fan hon os mynnwch 21MB)
|
LTTP Flyer |
Disgrifiad swydd a ffurflen gais Rhaglen Lleoli Athrawion yn Lesotho (cliciwch ar yr eicon i lawrlwytho):
|
|
Disgrifiad Swydd Athrawon Rhaglen Lleoli Athrawion yn Lesotho |
|
|
Disgrifiad Swydd Mentor Rhaglen Lleoli Athrawion yn Lesotho |
|
Ffurflen gais Rhaglen Lleoli Athrawion yn Lesotho |
Dolen Cymru - Wales
Lesotho
Link -
http://www.dolencymru.com / Miss Cathrin Daniel -
dolencymru@bttinternet.com - Tel:
029 2049 7390