Ysgolion

 

Mae addysg o’r dechrau wedi bod wrth galon gwaith Dolen Cymru. Mae Dolen Cymru yn cydnabod pwysigrwydd addysg fel offeryn i greu dealltwriaeth a goddefgarwch, i godi pobl allan o dlodi ac i greu dinasyddion byd-eang gweithgar.

 

Mae Dolen Cymru yn cefnogi ysgolion ac addysgwyr yng Nghymru ac yn Lesotho yn y ffyrdd canlynol:

 

Dolenni ysgolion

 

Ers dros ugain mlynedd, mae Dolen Cymru a Lesotho Wales Link wedi bod yn hyrwyddo dolenni rhwng ysgolion yng Nghymru ac yn Lesotho. Ar hyn o bryd mae dros 70 o ysgolion yn y ddwy wlad wedi eu dolenni, gan arwain at gyfnewid syniadau, llythyron, gwerthoedd, prosiectau cwricwlwm ar y cyd a hyrwyddo’r dimensiwn byd-eang mewn ysgolion.

 

Os hoffech chi greu dolen rhwng eich ysgol chi ac ysgol yn Lesotho, llenwch i mewn ffurflen aelodaeth ysgol a ffurflen dolenni ysgolion a dychwelwch y ddwy i swyddfa Dolen Cymru. Caiff eich ffurflen wedyn ei hanfon i Lesotho lle byddant yn dod o hyd i ysgol addas ac yn cyfnewid eich manylion.

 

Bydd y ffactorau canlynol yn dylanwadu ar sut y caiff ysgolion eu dolenni:


·         Lleoliad
·         Maint
·         Nifer y disgyblion
·         Cysylltiadau blaenorol rhwng staff

 

Yr ydych yn rhydd i nodi unrhyw flaenoriaeth sydd gennych ar gyfer y math o ysgol (e.e. cymysg, di-grefydd, gwledig ayyb) a gwnawn ein gorau i ddod o hyd i ysgol addas.

 

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim i aelodau o Dolen Cymru.

 
 Ffurflen Gais Dolenni Ysgol

 

Cyfnewid athrawon

 

Mae Dolen Cymru yn gweithio gyda’r Cyngor Prydeinig i alluogi ysgolion sydd wedi gefeillio i gyfnewid staff dysgu fel rhan o’r Cynllun Partneriaeth Ysgolion Byd-eang gan yr Adran dros Ddatblygiad Tramor. Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac fe’i dosberthir i’r Cyngor Prydeinig fel bod tri clwstwr o bedair ysgol (neu grwpiau daearyddol agos) yn medru gwneud cais am grant o £4,900 i dalu i athro o’r ysgol yng Nghymru a Lesotho dreulio o leiaf wythnos yn yr ysgol ddolen, gan dderbyn llety gan gyd-athro a threulio amser yn yr ysgol yn gweithio ar brosiect cwricwlwm ar y cyd o gwmpas thema arbennig ar y dimensiwn byd-eang.

 

Mae Dolen Cymru yn hyrwyddo’r ymweliadau hyn trwy ddewis ysgolion ar gyfer pob clwstwr (gwneir y gwaith hwn gan yr is-bwyllgorau addysg rhanbarthol), trwy hyrwyddo cysylltiadau rhwng yr ysgolion yma yng Nghymru ac yn Lesotho, cynghori gyda llenwi ffurflen gais GSP y Cyngor Prydeinig, darparu sesiynau rhannu gwybodaeth i athrawon cyn eu hymweliadau, cynnig cefnogaeth i athrawon cyn eu hymadawiad ac yn ystod yr ymweliad yn ôl, trefnu teithio a llety yn Lesotho os oes angen, bwcio’r daith  awyren i Lesotho ac yn ôl, helpu athrawon Basotho i gael eu pasborts a’u visas, a gwerthuso pob ymweliad.

 

Os yw eich ysgol chi wedi ei dolenni gydag ysgol yn Lesotho trwy Dolen Cymru ac os hoffech chi wybod mwy am y grant Partneriaethau Ysgolion Byd-eang (GSP), yna cysylltwch ag ysgrifennydd eich is-bwyllgor addysg Dolen Cymru agosaf. Rhestrir y manylion ar y dudalen “Strwythur Dolen Cymru”.

 

Adnoddau dysgu

 

MaeDolen Cymru wedi bod yn cyd-weithio gydag addysgwyr i gynhyrchu adnoddau dwyieithog ar gyfer eu defnyddio mewn ysgolion yn Lesotho.

 

Ar gael ar hyn o bryd:

 

“Khotso!” – adnodd CA2 ar gael ar CD Rom dwyieithog i’w ddefnyddio gyda byrddau gwyn rhyngweithiol, neu yn y Gymraeg yn unig fel copi caled (y fersiwn Saesneg wedi gwerthu allan).

 

Mae “Khotso!” wedi ei ddylunio i gydfynd ag anghenion CA2 Daearyddiaeth trwy helpu plant i gymharu Cymru a Lesotho trwy lygaid bachgen 12 oed o gefn-gwlad. “Fedra’i ond tanlinellu sut y gwnaeth y profiad estyn gorwelion y plant a chyfoethogi eu bywydau,” meddai’r athrawes Elin Jones wedi iddi ddefnyddio’r pecyn yn ysgol Gynradd Porthdinorwig. “Cafwyd gwelliant amlwg yn safon eu gwaith. Fe daniodd eu diddordeb a synnwyd fi gan eu syched sydyn am wybodaeth.”

 

Pris: £20 + p&p am y copi caled

Pris: £25 + p&p am y CD Rom

 

 Hysbys-ddalen CA2

 Ffurflen archebu CA2

 Hysbys-ddalen CA2 CD-ROM

 Ffurflen archebu CD ROM

 

“Khotso! Pula! Nala!” – Adnodd CA3 dwyieithog ar gael fel copi caled ac yn cynnwys fideo.

 

Pris: £30 + p&p fel copi caled

 

 Hysbys-ddalen CA3

 Ffurflen archebu CA3

 

I archebu unrhywun o’r adnoddau uchod, ffoniwch y swyddfa ar 029 20 497390 neu e-bostiwch ni ar :swyddfadolen@btinternet.com

 

Aelodaeth

 

Gweler y dudalen “Aelodaeth” am fanylion ar sut y gall eich ysgol chi ymuno â Dolen Cymru.