Gweithgareddau
Mae Dolen Cymru yn draddodiadol wedi canolbwyntio ei gwaith ar y meysydd canlynol; addysg, iechyd, cyfnewid diwylliannol a rhwng eglwysi. Er hynny, dros y blynyddoedd gwnaed llawer o waith hefyd yn y canlynol: datblygiad gyda’r ieuenctid, llywodraethu, cysylltu cymdeithas sifil, chwaraeon, amaethyddiaeth a’r amgylchedd, apeliadau codi arian, y celfyddydau, y cyfryngau a chreu cysylltiadau llywodraeth leol.
Isod ceir golwg fras ar weithgareddau diweddaraf Dolen Cymru.
Addysg



Mae Dolen Cymru wedi ennill clod am ei gweithgaredd ym maes dinasyddiaeth fyd-eang. Trwy ddolenni dros 80 ysgol yng Nghymru a Lesotho, trefnu dros 50 o gyfnewidiadau athrawon, datblygu adnoddau dysgu ar gyfer yr ystafell ddosbarth a hyrwyddo datblygiad proffesiynol trwy ein Rhaglen Lleoli Athrawon yn Lesotho, mae Dolen Cymru wedi dod yn gyfrwng pwysig ar gyfer dysgu am wlad sy’n datblygu, ar gyfer gwerthfawrogi diwylliannau gwahanol a chreu cyfeillgarwch dros ffiniau daearyddol, diwylliannol ac economegol. Fel canlyniad, mae mwy a mwy o ysgolion am efeillio gydag ysgolion yn Lesotho, gyda rhyw 20 ysgol newydd yn efeillio yn 2005-6 yn unig.
Mewn addysg uwch a phellach, mae Dolen Cymru wedi bod yn llwyddiannus yn hyrwyddo dolennau rhwng ymchwilwyr Prifysgol a cholegau hyfforddi athrawon. Mae’r ddolen rhwng Coleg y Drindod, Caerfyrddin a Choleg Addysg Lesotho wedi bod yn arbennig o lwyddiannus dros y ddwy flynedd ddiwethaf gyda blychau o adnoddau dysgu rhifeg yn cael eu datblygu’n llwyddiannus ar gyfer eu defnyddio mewn ysgolion yn Lesotho.Mae’r hyfforddiant a’r dosrannu o’r adnoddau hyn yn 2006 wedi derbyn canmoliath uchel yn yr ysgolion a’r coleg a’u derbyniodd.
Ar hyn o bryd, mae Dolen Cymru yn derbyn arian prosiect gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer dwy raglen addysg; y rhaglen cyfnewid ymweliadau a’r Rhaglen Lleoli Athrawon yn Lesotho. Mae’r cyntaf yn gynllun lle gall athrawon ymweld â’u hysgolion cyswllt yng Nghymru a Lesotho am wythnos i ddeg diwrnod, gan wario amser yn yr ystafell ddosbarth ac aros gyda chydweithwyr. Mae’r rhaglen hon wedi cynyddu’r nifer o athrawon sy’n cyfnewid yn flynyddol o 10 (5 o bob gwlad) hyd at rhwng 24 a 40. Mae hyn wedi golygu cynnydd enfawr mewn gweinyddu’r rhaglen gyfnewid a bydd hyn yn dal i gynyddu wrth i fwy o ysgolion gynnig yn llwyddiannus am Grant Datblygu Cwricwlwm y Cyngor Prydeinig sydd yn galluogi pedwar o athrawon a dau ddisgybl (os o ysgol uwchradd) i gymryd rhan mewn ymweliad bob blwyddyn dros dair blynedd.
Ail ran y prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw’r Rhaglen Lleoli Athrawon yn Lesotho. Dros dair blynedd, mae’r rhaglen yma yn galluogi 24 o athrawon o Gymru neu a addysgwyd yng Nghymru i weithio mewn ysgolion yn Lesotho am chwe mis. Yr ydym yn ddiweddar wedi derbyn arian i estyn yr amser y gall athrawon aros yn Lesotho i chwe mis ychwanegol gydag ail ran y flwyddyn yn canolbwyntio mwy ar hyfforddi athrawon a mentora cyfoedion mewn ysgolion.
Iechyd




Datblygwyd dolennau iechyd mewn pob math o ffyrdd diddorol. Arweiniodd ymweliadau cyfnewid cynnar at ymweliadau gan y Gymdeithas Feddygol â Lesotho ac anfonwyd casgliadau o gyfarpar iechyd sylfaenol o glinigau ac ysbytai ar draws Cymru mewn cynwysyddion i Lesotho.
Cefnogwyd datblygiad rheolaeth yn y brif ysbyty ymgynghorol, y QE II yn Maseru, gan Ysbyty Morgannwg Ganol yn y 1990au cynnar yn dilyn cais gan Dolen ac yn 1993 ymwelodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Dr.Raditapole, â Chymru ac fel canlyniad symbylwyd rhai cysylltiadau iechyd meddwl o bwys,
Yn 1997, sefydlwyd prosiect tair blynedd, a ariannwyd gan Grant Ryngwladol oddi wrth Fwrdd Elusennau y Loteri Cenedlaethol, ar gyfer hyfforddi hyfforddwyr i ddatblygu sgiliau iechyd meddwl ymhlith Gweithwyr Iechyd Pentrefol – y rhain yw’r gweithwyr iechyd gwirfoddol ar flaen y gad; i ganran uchel o’r boblogaeth, hwy yw’r cyrchfan cyntaf am help gan y Basotho.
Mae secondiadau gan weithwyr iechyd o Gymru wedi bod yn niferus a, bob blwyddyn, mae Dolen Cymru yn trefnu lleoliadau dewisol i’r myfyrwyr meddygol o Gymru i ysbytai yn Lesotho ac, o bryd i’w gilydd, Gwasanaeth Doctor yn yr Awyr Lesotho. Cafwyd hefyd ymweliadau cyfnewid a hyfforddi ar gyfer staff iechyd Lesotho.
Mae Dolen Cymru yn gweithio yn agos gyda’r Weinyddiaeth Iechyd a’r Groes Goch yn Lesotho. Arweiniodd hyn at ddatblygu rhaglen HIV/AIDS yn ardal Quthing sydd wedi ei gryfhau gan berthynas ddolen rhwng yr ardal honno a’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol eangach yng Nghymru. Mae gweithwyr oYmddiriedolaeth Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi bod yn gweithio yn Ysbyty QE II i sefydlu Uned Gwyliadwriaeth HIV/AIDS Pediatrig ac y mae meysydd eraill ar gyfer hyfforddi ac ymchwil wedi eu clustnodi. Bydd hyn eto yn sail i berthynas barhaol.
Agorwyd clinig iechyd newydd yn Sefika yn ddiweddar gyda chefnogaeth Capel y Tabernacl, Caerdydd ac y mae eglwysi yng Nghymru a Lesotho hefyd wedi bod yn weithgar yn datblygu Prosiect Creu Incwm i’r teuluoedd hynny a effeithiwyd gan HIV/AIDS yn Morija. Yr ydym wrthi yn chwilio am arian er mwyn rhoi’r prosiect olaf hwn ar waith.
Er mwyn cefnogi’r holl weithgareddau iechyd ac i helpu i benderfynu ar flaenoriaethau pellach, mae angen presenoldeb iechyd “parhaol” yn y wlad ac y mae hyn yn cael ei drafod ar hyn o bryd ynghyd â’r gefnogaeth weinyddol angenrheidiol. Mae arian hâd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn galluogi’r gwaith gwerthfawr hwn i gael ei ddatblygu.
Eglwysi



Mae dolennau rhwng eglwysi yng Nghymru a Lesotho wedi bod yn rhan bwysig o Dolen Cymru ers y dechrau. Efallai i’r ffaith mai Llywydd cyntaf Dolen Cymru oedd y Gwir Anrhydeddus Ddr.Gwilym O. Williams, cyn Archesgob Cymru, sicrhau mai fel hyn y byddai. Am lawer blwyddyn arall, cadeiriwyd Is-bwyllgor yr Eglwysi gan Archesgob arall, Alwyn Rice Jones. Y cadeirydd presennol yw Esgob Catholig Wrecsam, Edwin Regan. Mae ymweliadau cyfnewid rhwng arweinyddion eglwysig wedi helpu i sicrhau proffil uchel ymhlith eglwysi yn y ddwy wlad ac y mae’r ddolen wedi ei hadfywio gan gyfres o ymweliadau cyfnewid rhwng grwpiau ieuenctid eglwysig.
Mae yna enghreifftiau ardderchog o ddolen eglwys-eglwys (megis Eglwys y Tabernacl, Caerdydd ac Eglwys Sefika, Maseru) ac y mae sawl plwyf a deoniaeth yn cefnogi gwaith Dolen Cymru yn weithgar trwy eu haelodaeth a’u casgliadau. Mae dinas Tyddewi wedi gefeillio gyda Matsieng yn Lesotho – dolen a gefnogir yn frwd gan ddeoniaeth Tyddewi sydd wedi bod yn codi arian ar gyfer adeiladu ystafell ddosbarth yn y pentref..
Llywodraethu



Un maes lle y mae Dolen Cymru wedi bod yn weithgar yn y blynyddoedd diwethaf yw llywodraethu. Hyrwyddwyd gweithdai yn Lesotho ar lywodraethu da, tryloywder etholiadol a rôl grwpiau cymdeithas sifil i sicrhau llywodraethu da. Mae sawl Undeb eisoes wedi gefeillio gydag Undebau yn Lesotho ac y mae Tasglu’r Cyngor Cymraeg dros Weithgaredd Gwirfoddol ar gyfer Nodau Datblygiad y Mileniwm, a grëwyd i alluogi cymdeithas sifil yng Nghymru i gyfrannu tuag at gyflawni’r NDM, wedi gwneud Lesotho yn flaenoriaeth fel gwlad lle y dylai sefydliadau a grwpiau Cymraeg ganolbwyntio eu hymdrechion.
Crëwyd dolen rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC) a Chynulliad Cenedlaethol Lesotho (CCL) yn 2005 pan ymwelodd dirprwyaeth o Gangen Gymreig Pwyllgor Seneddol y Gymanwlad â Lesotho. Ymwelodd Mike German AC, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a John Griffiths AC, Dirprwy Weinidog Iechyd Llywodraeth Cynulliad Cymru â Chynulliad Cenedlaethol Lesotho ym mis Hydref 2005 i drafod gyda’u cydweithwyr seneddol yno sut y gall y ddau gynulliad cenedlaethol gyd-weithio i wella gwasanaeth i’w haelodau ac adeiladu cymhwyster eu staff. Yn dilyn yr ymweliad hwn, treuliodd pum aelod o staff o Gynulliad Cenedlaethol Lesotho bythefnos gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2006 ac y mae ymweliadau cyfnewid ychwanegol yn yr arfaeth dros y blynyddoedd i ddod.