Newyddion
Dydd Llun 7 Ionawr 2008
Mae Dolen Cymru wedi apwyntio Cydlynydd Datblygu newydd. Mae Sarah Jones wedi treulio dros pedair mlynedd yn gweithio i elusen leol Gymreig ac mae ganddi gryn brofiad o godi arian. Dywedodd Sarah "Dwi wrth fy modd fy mod yn cael y cyfle hwn i gynorthwyo Dolen Cymru i ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol ac i gryfhau a cynyddu'r dolenni gydag Lesotho." Mae Sarah wedi cychwyn gweithio yn barod ar drefnu cynhadledd cenedlaethol ym mis Mehefin ar gyfer yr holl fudiadau sydd yn gweithio mewn partneriaeth a Lesotho i drafod sut y gallwn gydweithio yn well o fewn y sector a rhannu profiadau. Cynhelir y cynhadledd yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ac fe'i gefnogir gan Undeb Rygbi Cymru ac elusen Tywysogion Hari a Seeiso, Sentebale.
Dydd Iau 8 Tachwedd 2007



Cardiau Nadolig Dolen Cymru - NAWR AR WERTH!!
Mae pecyn o gardiau yn cynnwys 6 cerdyn o 2 gynllun gwahanol
Prynwch 1 pecyn am £2.50, 5 pecyn am £10 (1 am ddim) neu 10 pecyn am £20 (2 am ddim)!
Os hoffwch archebu pecynnau o gardiau, ffoniwch neu e-bostiwch ni ar : 029 2049 7390 neu dolencymru@btinternet.com
Dydd LLun 8 Hydref 2007
~ Cyfeiriad newydd Swyddfa Dolen Cymru ~
Mae Swyddfa Dolen Cymru wedi symud i gyfeiriad newydd yn dilyn caefa y Gyfnewidfa.
Dylai pob gohebiaeth gael ei gyfeirio yn awr at y cyfeiriad canlynol: Dolen Cymru, Enterprise House, 127 Stryd Bute, Caerdydd CF10 5LE.
Mae'r rhif ffon a'r cyfeiriad e-bost yn aros yr un fath: Tel: 029 20497390 neu E-bost: dolencymru@btinternet.com
Dydd Iau 29 Mawrth 2007
Y Tywysog Harry i fod yn Noddwr DOLEN CYMRU -Wales Lesotho Link
Mae’r Tywysog Harry wedi cytuno i fod yn Noddwr Brenhinol cyntaf yr elusen Gymreig, Dolen Cymru – Wales-Lesotho Link.
Dyma’r tro cyntaf i’r Tywysog Harry ymgymryd â bod yn noddwr elusen gydnabyddiedig a bydd ei gysylltiad gyda Dolen Cymru yn dechrau ar unwaith.
Mae Dolen Cymru wedi bod yn gweithio ers dros 20 mlynedd i hybu cyfeillgarwch a dealltwriaeth rhwng pobl Cymru a’i gefeill-wlad Lesotho yn neheudirAffrica. Ers 1985, creodd Dolen Cymru gysylltiadau ar sawl lefel gan newid bywydau pobl yn Lesotho a Chymru. Mae Dolen Cymru yn gweithio mewn sawl maes gan gynnwys Addysg, Iechyd, yr Eglwysi, Diwylliant a Llywodraethu.
Taniwyd diddordeb y Tywysog Harry yn Lesotho pan fu’n gwneud gwaith gwirfoddol yn y wlad fechan hon gyda phlant yn amddifad oherwydd AIDS yn ystod ei flwyddyn gap.
Meddai’r Dr.Carl Clowes, Llywydd Dolen Cymru, am y nawddogaeth newydd “Mae’n bleser mawr gennym groesawi Noddwr a ddangosodd gymaint o ymroddiad personol i bobl Lesotho ac, wedi gweld natur cyfraniad y Tywysog Harry eisoes â’n llygaid ein hunain, gwyddom y byddwn yn elwa cryn dipyn o’i gefnogaeth yn y dyfodol.”
Mae Dolen Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Tywysog Harry i godi ymwybyddiaeth o’r problemau sy’n wynebu ein gefeill-wlad a hefyd o’r gwaith gwerthfawr y mae Dolen Cymru a’i sefydliad partner yn Lesotho, Laquama le Wales (y Lesotho Wales Link) yn ei wneud.
Dydd Mercher 4 Hydref 2006
LESOTHO YN CHWIFIO BANER “HEDDYCHLON”
Mae
brenhiniaeth fechan fynyddig Lesotho yn dathlu 40ed penblwydd ei hannibyniaeth
oddi wrth y Deyrnas Gyfunol trwy gyhwfan baner newydd mwy heddychlon. Caiff y
symbolau milwrol o’r darian, y bicell a’r pastwn eu cyfnewid am yr het bigfain
draddodiadol ar gefndir y faner las,gwyrdd a gwyn. Yr oedd yr het a wisgir gan y
Basotho brodorol i’w gweld ar y faner annibynnol gyntaf ond fe’i newidiwyd
wedi’r coup. Dywed Lesotho bod ei baner newydd yn dangos ei bod “mewn
heddwch gyda’i hunan a gyda’i chymdogion”. Fel rhan o’r dathliadau penblwydd,
plannodd y Brenin Letsie III goed wrth droed cerflun o sylfeinydd y genedl
Basotho, y Brenin Moshoeshoe I. A bydd diamwnt anferth a ddaeth o gloddfa yn
Lesotho yn mynd ar werth yn Antwerp. Y diamwnt mwyaf yn y byd a ganfuwyd yn y
ganrif hon yn ôl pob sôn yw’r diamwnt gwyn 603 carat a elwir “addewid Lesotho”.
Mae’r genedl, sydd wedi ei hanrheithio gan AIDS a’i gorlwytho gan ddyledion
anferth, hefyd wedi cyhoeddi cynllun datblygiad tymor-hir pwysig. Bydd
etholiadau nesaf Lesotho yn 2007. Trwy ganiatâd bbc.co.uk
Dydd Mawrth, 7 Chwefror 2006
LESOTHO’N LLWGU YNG NGHYSGOD DE AFFRICA GYFOETHOG
Mae perthynas Lesotho gyda De Affrica wedi bod erioed yn un cymydog cyfoethog, cymydog tlawd, fel y darganfu Justin Pearce o wefan Newyddion y BBC pan ymwelodd â phentref yn ne Lesotho.”Does dim digon o fwyd. Dyw’r caeau ddim wedi eu plannu”. Mae Moloko Lekhoana yn sefyll ar fur argae pridd y mae ef a’i gymdogion yn adeiladu â llaw, ac yn edrych ar y pridd diffaith o gwmpas ei bentref, Morifi, yn ne Lesotho. Dyw ei sefyllfa ef ddim gwahanol i un 500,000 o bobl yn Lesotho – chwarter y boblogaeth – sydd heb ddigon o fwyd. “Llynedd fe gynhyrchais i dri bag o india corn yn unig”, meddai Mr.Lekhoana. Dyw hi ddim yn anodd credu bod y tir yma ddim yn gynhyrchiol. Mewn mannau mae’n edrych fel croen eliffant: yn galed, yn llwyd ac yn grychiog. Mewn mannau eraill, mae’r pridd wedi ei erydu i ffurfio grynnau brau – yn un lle mae colofn o bridd yn codi rhyw ddwy fetr gydag un llwyn ar ei ben, ei wreiddiau yw’r unig beth sy’n cadw’r pridd gyda’i gilydd. Dros y bryn,gallwch edrych i lawr ar lwyfandir lle mae llinell o goed yn marcio’r ffin gyda De Affrica. Mae’r ffermydd masnachol yr ochr arall yn llyfn a gwyrdd.
Gor-bori
Mae Mr.Lekhoana yn beio gor-bori fel achos y diffeithwch yn ei bentref. “Mae anifeiliaid wedi bod yn crwydro ymhobman.” Mae arbenigwyr ffermio yn pwyntio bys hefyd at yr arfer o dyfu un cnwd yn unig - india corn fel arfer- flwyddyn ar ôl blwyddyn fel achos arall am wanhau’r pridd. Yn ne Affrica mae ffermydd yn fwy o faint, felly mae llai o bwysau ar y tir gan roi amser i’r pridd adfer ei hun rhwng y cnydau. Gyda’r drwg wedi ei wneud, y mae llai o wartheg nag a arferai fod yn Morifi, gan egluro pam nad oes gan Mr.Lekhoana ddim un i dynnu ei aradr eleni. “Bu farw’r gwartheg achos nad oedd ganddyn nhw ddigon o dir pori,”meddai Mr.Lekhoana. “Neu fe gawson nhw eu gwerthu achos bod pobl yn dlawd – fel bod arian i ofalu am eu teuluoedd.” Mae bron un o bob tri o bobl Lesotho yn HIV positif. Ar ôl cwpwl o flynyddoedd o sychder, does gan neb arian ar ôl i dalu am ofal meddygol – i lawer o deuluoedd, gwartheg yw’r unig beth sydd ganddyn nhw i’w werthu, hyd yn oed os yw cael gwared o’r da byw yn golygu na fyddan nhw’n gallu aredig y flwyddyn wedyn. Mae’r epidemig HIV yn un etifeddiaeth o’r cysylltiad hir hanesyddol rhwng Lesotho a De Affrica. Oherwydd nad oedd tir Lesotho yn gallu cynnal ei phoblogaeth ers blynyddoedd maith, daeth cenedlaethau o Basotho yn ffynhonnell llafur rhad i’r mwynfeydd “drws nesaf” – gweithwyr mudol oedd allforion gwerthfawrocaf Lesotho. Mae hyn wedi newid dros y ddegawd ddiwethaf wrth i’r mwynau yn y cloddfeydd gael eu disbyddu ac i economi De Affrica fod yn llai dibynnol ar fwyngloddio. “Anfonwyd pobl adref o’r mwynfeydd. Fe fydden nhw’n arfer helpu gyda ffermio. Ond ddim rhagor, “ebe Mr.Lekhoana.
Tymor o gyni
Efallai bod Lesotho yn allforio llai o weithwyr y dyddiau hyn, ond ei allforyn mawr cyfredol yw dŵr, trwy’r Lesotho Highlands Project: cyfres o gronfeydd a phibau sy’n cario dŵr o ucheldiroedd glawog Lesotho i dorri syched diwydiant De Affrica. Eto, does gan y mwyafrif o ffermwyr Basotho ddim adnoddau dŵr wrth gefn i’w cario trwy dymor hesb – mae’r glaw eleni yn dilyn pedair blynedd o sychder. Mae’r argae sy’n cael ei adeiladu yn Morifi yn brosiect ar y cyd rhwng llywodraeth Lesotho a Rhaglen Fwyd y Byd, sydd yn darparu bwyd i’r rhai sy’n adeiladu’r argae. Mae’r gweithwyr – llawer ohonynt dros ganol oed a’r mwyafrif yn wragedd – yn symud yn ôl a blaen gyda berfâu, yn pentyrru’r pridd ac yn ei wasgu i lawr â llaw i godi’r argae pridd yn uwch. Mae wedi cymryd blwyddyn i ddod hyd yma – efallai erbyn y flwyddyn nesaf y byddant wedi dechrau adfer y ceunentydd a storio dŵr. Ond mae yna lawer o bentrefi eraill yn Lesotho sy’n debyg i Morifi gyda’i geunentydd a’i bridd llychlyd, a does dim cronfeydd gan y rhan fwyaf. Mae’r farchnad lafur a’r farchnad ddŵr yn diffinio perthynas Lesotho â De Affrica – mae Lesotho mor ddibynnol ar “drws nesaf” fel bod rhai pobl yn gofyn pam ei bod yn wlad ar wahân.
Cymdogion anghyfartal
Mae’r ateb yn ei hanes. Yn y 19eg ganrif, cafodd y Basotho eu hunain wedi eu dal rhwng y Voortrekkers – disgynyddion y gwladychwyr Iseldireg a fudodd i ganolbarth De Affrica – a mynyddoedd Maluti. Golygodd cytundeb gyda Phrydain bod Basotholand – fel y’i gelwid bryd hynny - yn cael ei ffurfio fel diffynwlad ar ba ychydig dir y llwyddodd y Basotho ei gadw. Pan unwyd De Affrica yn 1910, arhosodd Basotholand yn uned ar wahân a daeth yn annibynnol o Brydain yn 1966. Ond doedd annibyniaeth economaidd fyth yn bosibilrwydd i wlad gyda chynifer o bobl ac mor ychydig o dir âr. Rhoddodd De Affrica waith i weithwyr o Lesotho cyhyd ag yr oedd eu hangen arni – ond pan ballodd y swyddi bu raid iddyn nhw fynd nôl i bentrefi fel Morifi yn hytrach na chwilio am gyfleon newydd yn yr economi iach drws nesaf.
Y canlyniad: gwlad lle mae un o bob pedwar yn llwgu. Gyda chaniatâd bbc.co.uk