Hanes y Ddolen

 

Cefndir

 

Lansiwyd Dolen Cymru – Dolen Gyswllt Cymru-Lesotho mewn seremoni yn y Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd ym Mawrth 1985. Tyfodd y syniad o Gymru’n datblygu dolen arbenning gyda gwlad yn y Trydydd Byd allan o’r dymuniad i weld os gallai ein gwlad fach ni wneud cyfraniad uniongyrchol i un o’r sialensau mwyaf yn ein wynebu ni heddiw – y gagendor economaidd cynyddol rhwng gwledydd y ‘gogledd’ a gweldydd datblygol y ‘de’.

 

Cysylltwyd â Lesotho, brenhiniaeth fechan annibynnol yn ne Affrica, ac wedi i sefydliadau heb fod yn rhai Llywodraethol gyfarfod yn ei phrifddinas Maseru, derbyniwyd yr ‘efeillio’ yn wresog iawn. Mewn neges i nodi ei ddegfed benblwydd yn 1995, diolchodd Uchel Gomisiynydd Lesotho yn Llundain bryd hynny, ei Arddechogrwydd Kenneth Tsekoa, i bobl Cymru am "y bartneriaeth ofalgar ddangoswyd dros y blynyddoedd." "Mewn iechyd, materion ieuenctid, amgylchedd a chrefydd bu’r bartneriaeth â Chymru yn ffynhonnell ysbrydoliaeth a gobaith i’n pobl" meddai.

 

Y mae’r ddolen yn unigryw am iddi gysylltu dwy genedl – o’i gymharu ag efeillio trefi neu Awdurdodau Lleol. Ei sylfaen yw cyfeillgarwch a dealltwriaeth o’r ddwy ochr ac mae’n cynnwys elfen addysgol gref. Mae Lesotho fwy neu lai yr un maint â Chymru. Gyda’i mynyddoedd, ei dwyieithrwydd (Saesneg a Sesotho), ei dibyniaeth ar adnoddau dý r a thwristiaeth, a gyda’i thraddodiadau mwyngloddio a chorawl, trodd allan i fod yn ddewis hapus fel efaill Trydydd Byd.

 

Yr hyn sydd wedi tyfu’n raddol ond yn gyson yn yr un blynedd ar ugain olaf yw gwe amlochrog werinol o gysylltiadau. Y mae amryw o gymdeithasau – fel Merched y Wawr a Mudiad Ysgolion Meithrin – wedi dod o hyd i gymdeithasau tebyg yn Lesotho. Drwy gyfres o ymweliadau dwyffordd – gan athrawon, meddygon, pobl ifanc, newyddiadurwyr, arweinwyr eglwysig a dinesig, cynrychiolwyr merched, darlithwyr coleg a chorau – datblygodd dealltwriaeth a thyfodd cyfeillgarwch. Dywedodd cyn Uchel Gomisiynydd Lesotho arall ei bod yn cynrychioli "dimensiwn newydd mewn perthynas ryngwladol."

 

Yn 1997 derbyniodd Dolen Cymru grant o bwys gan Rownd Rhyngwladol y Loteri Cenedlaethol. Defnyddiawy y grant  i  wella ansawdd addysg elfennol yn Lesotho ac hefyd addysg iechyd yn y pentrefi. Bu Dolen Cymru hefyd yn casglu llyfrau darllen Saesneg o ysgolion cynradd drwy Gymru gyfan i anfon defnydd darllen mawr ei angen i Lesotho. Llwyddwyd i ddanfon 1,418 o focsus mewn saith llwyth i’r 1,300 o ysgolion cynradd. Rhoddwyd llyfrau gan 300 o ysgolion cynradd o 16 Awdurdod Addysg led-led Cymru. Dosbarthwyd hefyd gwerth £23,000 o lyfrau cyfeirio i Ganolfannau Adnoddau Addysg Lesotho. 

 

Ers 2002 mae Dolen Cymru wedi derbyn rhan helaeth o’i gyllid gan Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn ehangu ein gwaith yn y maes addysg byd eang a datblygid proffesiynol athrawon. Yn 2005 lawnswyd Rhaglen Lleoli Athrawon yn Lesotho Dolen Cymru sydd yn cynnig cyfle i athrawon o Gymru weithio yn Lesotho am 6-12 mis. Gobeithiwn bydd Fframwaith y Cynulliad ‘Cymru Dros Affrica’ a lawnswyd yn 2006 yn caniatau i Dolen Cymru gynnig mwy o gyfleoedd i weithwyr proffesiynol o Gymru gyfrannu  mwy tuag at datblygu rhyngwladol cynaliadwy yn Lesotho yn y dyfodol .

 

Y mae Dolen Cymru yn elusen gofrestredig sydd yn cael ei redeg gan Bwyllgor Cenedlaethol sydd yn cynrychioli gwahanol rannau o Gymru a gwahanol feysydd ym mywyd Cymru. Y mae iddo is-bwyllgor cynghorol yr Eglwysi dan gadairyddiaeth Esgob Wrecsam, a phwyllgor Meddygol dan gadairyddiaeth y Llywydd Dr Carl Clwes, a thri phwyllgor ymgynghorol addysg, un wedi ei leoli yng ngogledd Cymru, un yn y de-orllewin a’r llall yn y de-ddwyrain. Mae Dolen Cymru yn gorff aeolodaeth. Mae aelodau’n talu tanysgrifiad blynyddol o £10 (£20 i ysgolion a sefydliadau). Mae mantesion ymaelodi yn cynnwys hawliau pleidleisio yn y CCB a dau Gylchlythyr bob blwyddyn. Am fanylion llawn o sut i ymaelodi, ewch i’r dudalen Aelodaeth ar y wefan.

 

Y mae’r rhai ohonom sy’n ymwneud â‘r ddolen ar y ddwy ochr yn credu, er bod ein dwy wlad yn fychan, ein bod trwy yr efeillio cyntaf erioed yma rhwng cenedl a chenedl wedi arloesi rhywbeth o arwyddocad i’r "pentref bydeang" cyfan.